Carwyn Jones: Trafodaethau 'adeiladol' Tata
Mae'r prif weinidog Carwyn Jones wedi disgrifio cyfarfod gyda bwrdd cwmni Tata yn India ddydd Mercher fel un 'adeiladol iawn'.
Roedd disgwyl cyhoeddi rhestr fer o geisiadau posib yn dilyn cyfarfod o fwrdd y cwmni ddydd Mercher. Ond dywedodd cyfarwyddwr ariannol y cwmni, Koushik Chatterjee, fod y ceisiadau'n dal i gael eu hystyried.
Roedd Ysgrifennydd Busnes Prydain, Sajid Javid a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi teithio i Mumbai i gwrdd â bwrdd Tata.
Newyddiadurwr ym Mumbai sydd yn holi Carwyn Jones yn y cyfweliad.