BBC Cymru Fyw

Dadorchuddio plac i Waldo Williams

Mae cyn brif weinidog Cymru a'i frawd wedi cymryd rhan mewn seremoni arbennig yn Sir Benfro i gofio am y bardd, y cenedlaetholwr a'r heddychwr Waldo Williams.

Fe ddadorchuddiodd Rhodri Morgan a'i frawd Prys Morgan, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, blac ym Mhentref Rhoscrowdder, yr ardal lle y cyfansoddodd Waldo ei gerdd eiconig 'Cofio' yn 1931.