Pa mor bwerus yw sganiwr ymennydd Prifysgol Caerdydd?
Fe fydd y Frenhines yn agor canolfan newydd yn y brifddinas ddydd Mawrth.
Bydd Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC) yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i greu delweddau o'r ymennydd, gyda'r sganiwr ymennydd mwyaf soffistigedig yn Ewrop.
Y buddsoddiad £44m yw'r swm mwyaf i gael ei wario ar gynllun unigol yn hanes Prifysgol Caerdydd.
Fe gafodd ein Gohebydd Iechyd Owain Clarke sgan o'i ymennydd yn hen ganolfan sganio'r brifysgol y llynedd.
Ond mae wedi ymweld â'r ganolfan newydd ar ran Cymru Fyw er mwyn darganfod pa mor bwerus yw'r cyfarpar newydd.
- Cyhoeddwyd
- 7 Mehefin 2016
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy