Cerdd gan Mari George, cyn fardd y mis ar Radio Cymru

Yn hen olau dechrau dydd

mae’i wynt ar hyd palmentydd,

yn sŵn gwag, drysau’n agor

mae yno’n gân ac mae’n gôr.

Mae yn anian y canwr

a hwnnw’n nawr yn hen ŵr.

Mae’n dawel mewn corneli

a’n dwym yn dy galon di.

Yn enaid, mae hwn yno

yn ein cur ac yn ein co.

Ac ar lôn sy’n deffro’n dân,

eco haf ydyw'r cyfan;

Awn yn hy â’r haul o’n hôl,

neswn at un gân iasol.