Sefyllfa Llafur a Corbyn yn 'hollol newydd'
Bydd Jeremy Corbyn yn cael ei gynnwys ar y papur pleidleisio ar gyfer arweinyddiaeth Llafur yn awtomatig wedi penderfyniad gan Bwyllgor Gweithredol y blaid.
Mae'r hanesydd a'r sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Syr Deian Hopkin, wedi bod yn rhoi ei ymateb, gan ddweud bod hyn yn sefyllfa "hollol newydd" i'r blaid.