Cyngor Môn yn trafod annog mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg
Ddydd Mawrth, bydd Cyngor Ynys Môn yn trafod cyhoeddi llyfryn a gwefan i annog mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg.
Roedd cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ar yr ynys yn y cyfrifiad diwethaf ac mae'r pecyn yma'n rhan o strategaeth ehangach i geisio hybu'r iaith yno dros y blynyddoedd nesaf. Dafydd Evans sydd â'r hanes.