Teyrnged i Michael Cura
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal yn Eglwys y Galon Sanctaidd yn Abertawe i gofio bachgen 16 oed fu farw tra ar daith yn Sbaen.
Roedd Michael Cura yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig Bishop Vaughan ac yn beicio ar hyd llwybr y Pererinion i Santiago de Compostela pan fu farw'n sydyn ddydd Iau.
Dywedodd y Tad Jason Jones fod Michael yn fachgen hael iawn ac y bydd colled fawr ar ei ôl.