Ambiwlansys wedi 'newid y ffordd o ymateb'
Mae'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi "troi cornel" ac mae "gwelliant gwirioneddol" wedi bod yn ei berfformiad, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.
Daw ei sylwadau ar ôl i dargedau'r gwasanaeth gael eu newid y llynedd i geisio gwella perfformiad.
Owain Clarke aeth i holi parafeddyg am y newidiadau i'r system.