Lansio ymgyrch 1m o siaradwyr Cymraeg

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi manylion ymgyrch i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1m erbyn 2050.

Ar faes y Brifwyl yn y Fenni, dywedodd Mr Jones bod angen cynyddu hyder pobl sydd ddim yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg er iddyn nhw ddeall yr iaith.

Aled ap Dafydd oedd yn ei holi, gan ofyn yn gyntaf sut mae'r cynllun yma yn wahanol i arolygon eraill diweddar.