Aled Sion Davies yn anelu am aur yn Rio

Wrth i athletwyr Cymru baratoi i deithio i Rio cyn dechrau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd mewn ychydig ddyddiau, mae un yn arbennig eisiau ail adrodd y llwyddiant gafodd yn y gemau diwethaf.

Enillodd y taflwr disgen a phwysau, Aled Sion Davies fedal aur yn Llundain bedair blynedd yn ôl, ac mae'n anelu am aur unwaith eto.

Janet Ebenezer aeth i'w holi wrth iddo wneud ei baratoadau terfynol gyn Rio.