Gemau Olympaidd Rio: Gobeithion y bocsiwr Joe Cordina
Y bocsiwr Joe Cordina fydd un o'r Cymry cyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, gan ddechrau ei ymgyrch am fedal aur ddydd Sadwrn.
Ein gohebydd yn Rio, Rhodri Llewelyn aeth i bencadlys tîm Prydain - yr Ysgol Brydeinig yn y ddinas - ac mae'n asesu gobeithion y paffiwr pwysau ysgafn ar ôl sgwrs gyda'r dyn ei hun.