Canlyniadau TGAU: Yr ymateb yn Ysgol y Preseli

Mae perfformiadau yng Nghymru wedi aros yn gyson am y drydedd flwyddyn yn olynol gyda 66.6% o raddau TGAU yn rai A* i C.

Roedd cynnydd bychan (0.2%) i 19.4% yn y nifer o raddau A* ac A.

Mae pennaeth Ysgol y Preseli, Michael Davies wedi dweud bod canlyniadau'r ysgol "ymysg o gorau" erioed, gyda 26% o'r canlyniadau yn A neu'n A*.

Aled Scourfield aeth yno i holi Elen, Ioan, Steffan, Gethin a Guto am eu canlyniadau.