Pryder am ddyfodol lloches i gŵn yn Sir Gâr
Mae pryder am ddyfodol lloches i gŵn yn Sir Gaerfyrddin ar ôl i ffynhonnell fwyd allweddol ddod i ben.
Roedd safle Many Tears ger Cross Hands yn derbyn bwyd am ddim o storfa Amazon yn Abertawe, ond ar ôl i'r cwmni symud yr adran ddosbarthu bwyd anifeiliaid oddi yno, mae staff y lloches nawr yn galw am gymorth. Rhodri Llwyd aeth yno ar ran BBC Cymru.