Canmlwyddiant Roald Dahl: Barn plant Cymru
Mae Sioe 'Dychmygwch!' yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Roald Dahl.
Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, sydd wedi creu'r sgript, a'r actor Chris Kinahan sydd yn y brif ran - Alf - sy'n cyflwyno rhai o weithiau mwyaf poblogaidd yr awdur i blant ysgolion cynradd.
Wrth i'r sioe ymweld ag ysgol Pwll Coch yng Nghaerdydd, bu Chris a rhai o'r disgyblion yn dweud wrth BBC Cymru pam eu bod nhw'n hoffi'r llyfrau.