Canslo llawdriniaethau'n 'bryder mawr'
Wedi cyhoeddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon bod canslo llawdriniaethau yn dod yn arferiad "normal" mewn ysbytai yng Nghymru, yn enwedig ym misoedd y gaeaf, mae AC Plaid Cymru wedi dweud bod y sefyllfa'n "bryder mawr".
Daw ymateb Rhun ap Iorwerth ar ôl i ffigyrau ddangos bod 84,477 o lawdriniaethau wedi eu canslo yng Nghymru yn 2015/16.