Caniatâd i adfywio Neuadd y Farchnad Llandeilo
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo cynllun i adfywio Neuadd y Farchnad yn Llandeilo.
Mae'r adeilad, gafodd ei adeiladu yn 1838, wedi bod yn wag ers 2002.
Gohebydd BBC Cymru, Dafydd Morgan sy'n ein tywys o amgylch y safle presennol, gan fanylu ar y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol.