Yr Arglwydd Elis-Thomas: 'Angen mwy o gydweithio'
Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi gadael Plaid Cymru am nad oedd grŵp y blaid yn fodlon chwarae rôl mwy "cadarnhaol" gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad.
Fe wnaeth y cyn-arweinydd adael y blaid nos Wener, gan ddweud wrth gangen leol o'r blaid y bydd yn eistedd fel aelod annibynnol ym Mae Caerdydd.
Mae Plaid Cymru wedi galw am is-etholiad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd cyn gynted ag y bo modd.
Ond dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas wrth BBC Cymru ddydd Sadwrn nad oes unrhyw fwriad ganddo i gamu o'r neilltu.
Sion Tecwyn fu'n ei holi ar ran BBC Cymru.