Plant Ysgol Sant Baruc yn holi sêr rygbi Cymru
Bydd Cymru'n wynebu Ariannin yn eu hail gêm yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw geisio gwella ar y perfformiad yn erbyn Awstralia y penwythnos diwethaf.
Catrin Heledd gafodd sgwrs gyda Dan Biggar a Jamie Roberts ar y cwrs golff cyn y gêm honno, ond disgyblion ysgol o'r Barri sy'n gwneud yr holi yr wythnos hon.
Pa gwestiynau heriol sydd gan ddisgyblion Ysgol Sant Baruc i Jonathan Davies a Leigh Halfpenny tybed?
Gallwch wylio Cymru v Ariannin yn fyw ar Clwb Rygbi ar S4C o 17:00 ddydd Sadwrn.