Crwban môr gafodd ei hachub oddi ar arfordir Ynys Môn
Mae swyddogion gwarchodaeth yn ceisio achub crwban môr prin ar ôl iddi ddod i'r lan oddi ar arfordir Ynys Môn.
Cafodd yr anifail trofannol ei chanfod ddydd Sadwrn yn Tan-y-Foel, ger canolfan Sŵ Môr ym Mrynsiencyn.
Mae milfeddygon nawr yn edrych ar ôl y crwban, oedd yn "lwcus i fod yn fyw" ar ôl cael ei darganfod mewn cyflwr difrifol.