'Stafell ddiogel' i ddefnyddwyr cyffuriau yn y gogledd?
Mae 'na alwadau yn y gogledd am sefydlu stafelloedd diogel i bobl sy'n gaeth i gyffuriau.
Mae Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, Arfon Jones, yn dweud fod angen mannau preifat lle y gall pobl chwistrellu eu hunain gyda heroin.
Daw hyn wedi cwynion yn Wrecsam a Chaernarfon fod pobl wedi eu gweld yn cymryd cyffuriau mewn llefydd cyhoeddus.
Dyma farn rhai o bobl Caernarfon ar y syniad.