Gwyntoedd cryf yn achosi trafferth yn y canolbarth

Mae gwyntoedd cryfion wedi difrodi adeiladau a dymchwel coed yn Aberystwyth a dros ganolbarth Cymru ddydd Iau.

Dywedodd criw bad achub Aberystwyth eu bod wedi recordio gwynt o hyd at 94 milltir yr awr ger yr arfordir.