Poeni am effaith cau banc olaf Pontarddulais
Mae trigolion ym Mhontarddulais yn poeni am gynlluniau i gau'r unig fanc sydd ar ôl yn y dref.
Yn ystod yr haf, fe gyhoeddodd Banc Lloyds fwriad i gael gwared ar 12,000 o swyddi ar draws Prydain a chau 400 o ganghennau, a'r bwriad yw cau'r gangen ym Mhontarddulais fis Mawrth 2017.
Yn ôl y banc, mae hyn oherwydd bod cwsmeriaid yn newid eu dulliau bancio - gan gynnwys defnyddio canghennau eraill, bancio arlein, a dros y ffôn.
Dafydd Morgan fu draw i Bontarddulais i glywed mwy.