Cyngerdd olaf Côr y Traeth oherwydd diffyg aelodau
Mae'r nodyn ola' yn canu i un o gorau meibion Ynys Môn, sy'n paratoi ar gyfer eu cyngerdd olaf.
Ar ôl 47 o flynyddoedd mae Côr y Traeth wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi, a'r stori'n un cyfarwydd i nifer o gorau eraill hefyd - maen nhw'n methu dod o hyd i leisiau newydd.
Adroddiad Dafydd Gwynn.