Yr Ombwdsmon Nick Bennett: 'Angen ymddiheuro ac ystyried'

Roedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn esgeulus gyda chynilion plentyn mewn gofal yn ôl ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Yn yr achos cyntaf o'i fath, mae adroddiad Nick Bennett yn datgelu bod yr awdurdod heb fonitro cyfrif cynilo Rob Johnson yn ddigonol.

Dywedodd Mr Bennett y dylai'r cyngor ymddiheuro hefyd, ac y dylai'r llywodraeth ystyried ei bolisi yn genedlaethol.