'Wi-fi a band-eang yn dal ni nôl' medd Huw Richards
Mae rhai o flogwyr amlycaf Cymru yn dweud bod band-eang araf yn eu rhwystro rhag datblygu eu busnesau.
Yn ôl Huw Richards o Dregaron, sy'n creu fideos garddio, mae'n gorfod llwytho ei ddeunydd ar y we oddi cartref am ei fod yn cael trafferthion.