Safonau iaith: 'Greddf, nid deddf sydd ei angen'

Mae'r safonau iaith yn "rhy gymhleth" a bydd y broses o'u llunio yn cael ei adolygu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ar raglen Newyddion 9 dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies bod angen edrych eto ar y safonau wrth greu Deddf Iaith newydd.

Ond mae cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, John Walter Jones yn dweud mai nid y llwybr deddfwriaethol yw'r ffordd i ddenu'r di-Gymraeg.