Morlyn llanw Bae Abertawe yn 'gyfle heb ei ail'
Byddai adeiladu morlyn llanw Bae Abertawe yn "gyfle heb ei ail" yn ôl cyfarwyddwr cwmni contractwyr Alun Griffiths, Huw Llywelyn.
Bydd y cwmni yn rhan o'r gwaith adeiladu os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.
Mae disgwyl i adroddiad annibynnol Charles Hendry, sydd wedi bod yn edrych ar y cynllun, gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach.