'Cyfleoedd cyfartal' ar bwyllgor iaith, medd Bethan Jenkins
Mae cadeirydd pwyllgor Cynulliad sydd wedi tynnu gwahoddiad yn ôl i Gymdeithas yr Iaith ymddangos o flaen aelodau wedi dweud bod rhaid trin pawb yn gyfartal.
Dywedodd Bethan Jenkins na fyddai Cymdeithas yr Iaith yn ymddangos i roi tystiolaeth i'r pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu bod wedi penderfynu peidio ag ateb cwestiwn gan AC o blaid UKIP.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud nad oedd aelodau'n fodlon gweithio gydag aelodau UKIP oherwydd eu "hagweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas".