Rygbi byddar: Ceisio denu mwy o blant i'r gamp

Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae tîm cenedlaethol byddar Cymru'n wynebu Lloegr ym Mhontypridd ddydd Sadwrn.

Mae Cymru'n anelu am eu seithfed fuddugoliaeth yn olynol yn eu herbyn, ac mae cynllun cenedlaethol ar waith i geisio denu mwy o blant byddar i chwarae'r gêm. Adroddiad Jacob Ellis.