Rhodri Glyn Thomas: 'Gwarchod annibyniaeth' cyrff treftadaeth
Mae llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, wedi dweud y bydd cynnig gan gyrff treftadaeth i gyd-weithio yn hytrach nac uno yn gwarchod annibyniaeth y sefydliadau.
Mae'r cyrff, sy'n cynnwys Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol ac undebau llafur, wedi gwrthod unrhyw uniad ffurfiol o'u swyddogaethau.
Ond wedi trafodaethau, mae'r cyrff wedi argymell creu "partneriaeth strategol", sy'n cynnwys cydweithio a rhannu rhai swyddogaethau.
Aled Scourfield fu'n ei holi.