Corff newydd i drafod prisiau llaeth yn 'cynnig sicrwydd'
Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru yn cael eu hannog i lunio corff newydd fydd yn eu galluogi i drafod pris llaeth ag un llais.
Yn ôl yr undebau amaeth fe allai creu Corff Cynhyrchwyr Llaeth (DPO) helpu gosod y diwydiant ar seiliau mwy cadarn.
Mae cadeirydd bwrdd llaeth NFU Cymru, Aled Jones yn dweud y byddai corff newydd i drafod prisiau llaeth yn arwain at "ffordd fwy proffesiynol o weithredu".