Wylfa Newydd: Gadael grŵp Euratom yn 'ddinistriol'

Mae'r cynlluniau i adeiladu pwerdy ar Ynys Môn yn wynebu heriau sylweddol os yw'r DU yn gadael grŵp cydweithrediad niwclear Ewropeaidd, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Yn ôl yr Athro Dr Glyn O. Phillips - enillydd nifer o wobrau gwyddoniaeth rhyngwladol - byddai gadael Euratom "yn ddinistriol i unrhyw waith niwclear sydd ym Mhrydain".

Rhodri Llwyd aeth i'w holi ar ran BBC Cymru.