Max Boyce: 'Caerdydd fel carnifal ar ddiwrnod gêm'

Bydd rhai o ganeuon Max Boyce yn siŵr o gael eu bloeddio wrth i Gymru herio Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Mae'r canwr o Lyn-nedd yn enwog am ei gariad tuag at rygbi, ac mae'n dweud ei fod hefyd yn caru Caerdydd ar ddiwrnod gêm fawr, gan ddisgrifio'r awyrgylch fel "carnifal".

Mae'n trafod ei atgofion o'i gêm orau yn erbyn y Saeson yng Nghaerdydd, y newid yn y math o bobl sy'n mynychu gemau, cyn mynd ymlaen i roi ei ben ar y bloc i ddyfalu'r enillydd ddydd Sadwrn.

Bydd mwy o gyfweliad Max Boyce ar Newyddion 9 nos Wener.