Cymru v Lloegr: Dadansoddi'r dewis
Mae Rob Howley wedi gwneud dau newid i'r tîm drechodd Yr Eidal y penwythnos diwethaf i herio Lloegr ddydd Sadwrn, ond y newyddion mawr yw bod Dan Biggar a George North ar gael i ddechrau.
Y propiau, Rob Evans a Tomas Francis, yn cymryd lle Nicky Smith a Samson Lee yw'r unig newidiadau i'r 15 sy'n dechrau, gyda Taulupe Faletau ar y fainc hefyd.
Ar ôl cyhoeddi'r tîm ddydd Iau, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies fu'n dadansoddi'r dewis.