Merched mewn Gwyddoniaeth: Dr Sharon Huws
Dros y penwythnos bu sawl digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Rôl Merched ym Maes y Gwyddorau.
Ond yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dynion dal yn fwy tebygol na merched o ennill graddau a swyddi uwch mewn gwyddoniaeth.
Dr Sharon Huws, darlithydd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd yn trafod a oes 'na arwydd fod y bwlch yn cau.