Carchar y Berwyn: Swyddi i bwy?

Nos Iau bu aelodau panel Pawb a'i Farn yn Rhosllanerchrugog yn trafod carchar y Berwyn yn Wrecam, fydd yn agor ei drysau'n fuan.

Roedd sawl un o'r panel o'r farn y bydd y carchar yn cael effaith bositif, wrth ddenu swyddi i'r ardal yn ogystal â galluogi carcharorion o Gymru i fod yn agosach at adref a gallu derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg.

Ond codwyd pryderon hefyd am y gost a'r effaith ar wasanaethau iechyd a phlismona yn y gogledd.

Roedd rhywfaint o anghytuno hefyd ar bwy fydd yn elwa o'r swyddi - fyddan nhw wir yn mynd i bobl leol?