Gwrthwynebu adeiladu traffordd dros 'dir mor bwysig'

Bydd ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â'r cynlluniau i uwchraddio traffordd yr M4 yn dechrau ddydd Mawrth.

Mae rhai amgylcheddwyr yn gwrthwynebu ac yn dweud eu bod yn paratoi at "frwydr Dafydd yn erbyn Goleiath" gyda Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Mike Webb o elusen Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent byddai adeiladu'r llwybr newydd yn achosi difrod parhaol.