Deddf hawliau dynol: poeni am unrhyw newidiadau posib

Mae arbenigwr ar hawliau dynol, lloches a mewnfudo yn dweud y gallai agweddau gwleidyddol presennol arwain at "erydiad araf" mewn hawliau dynol.

Daw sylwadau'r fargyfreithwraig Mona Bayoumi wrth i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad gynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud fod llywodraeth y DU yn parhau "wedi ei hymrwymo" i adolygu fframwaith hawliau dynol ym Mhrydain.

Ond mae Mabli Jones o fudiad Stonewall yn pryderu am unrhyw newidiadau posib i'r ddeddf.