Carwyn Jones yn lansio wythnos Cymru yn Llundain
Roedd hi fel pe bai Dydd Gŵyl Dewi wedi cyrraedd yn gynnar yn Llundain ddydd Llun.
Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn y ddinas i ddechrau wythnos Cymru yn Llundain.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal i hybu Cymru, ac fe ddechreuodd y cyfan gyda dathliad o'n nawddsant ar gyfer llysgenhadon tramor yn Lancaster House.
Y bwriad, yn ôl Mr Jones, yw dangos bod Cymru ar agor i fusnes wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Gohebydd seneddol BBC Cymru Elliw Gwawr aeth yno.