Cymru v Iwerddon: Dadansoddi'r dewis
Dyw hyfforddwr Cymru Rob Howley ddim wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r garfan o 23 fydd yn herio Iwerddon yn y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd nos Wener.
Mae Howley wedi penderfynu yn erbyn cyflwyno wynebau newydd, er i union yr un tîm gael eu trechu gan Yr Alban yn Murrayfield bythefnos yn ôl.
Ar ôl cyhoeddi'r tîm ddydd Mercher, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies fu'n dadansoddi'r dewis.