Pryder am linellau melyn ym Menllech

Mae bron i 800 o bobl wedi arwyddo deiseb yn dweud eu bod nhw'n anhapus â chynlluniau i osod llinellau melyn ym mhentref Benllech, Ynys Môn.

Mae Cyngor Môn yn dweud eu bod yn ystyried cael gwared â rhai ardaloedd parcio er mwyn gwella'r sefyllfa traffig yno.

Ond mae nifer o fusnesau wedi mynegi pryder am y newid posib.

Un o'r rheiny sy'n poeni ydi Carol Hulme, sy'n gweithio yn siop sglodion The Golden Fry.