Gwynant Jones yn cofio'r ymosodiad pan frathwyd ei glust

Cafodd cyn-filwr ei garcharu am 16 mis ddydd Mawrth am frathu glust dyn arall i ffwrdd mewn tafarn yn Aberystwyth.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Geraint Jones, 25, wedi gwisgo mewn gwisg ffansi ar gyfer "parti di-chwaeth" pan ymosododd ar Gwynant Jones.

Flwyddyn a hanner wedi'r digwyddiad, mae Gwynant Jones yn dweud fod yr ymosodiad yn dal yn fyw yn y cof.