Angen i'r gwasanaethau cyhoeddus 'ddysgu gwersi'
Mae Nick Bennett yn dweud bod angen i wasanaethau cyhoeddus "ddysgu gwersi" ar ôl derbyn cwynion.
Dywed yr ombwdsmon bod angen "newid diwylliant" a llywodraethu effeithiol ar draws y sectorau.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae'r Cynulliad wrthi ar hyn o bryd yn trafod Mesur yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ac o'r farn y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn arwain at "fwy o gysondeb a gwelliant yn y modd rydym yn ymdrin â chwynion."