Osian Roberts: 'Lot o ffordd i fynd' yn yr ymgyrch

Bydd Cymru'n teithio i Ddulyn i herio Gweriniaeth Iwerddon nos Wener, mewn gêm dyngedfennol yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Mae'r rheolwr Chris Coleman wedi pwysleisio y bydd e a'i dîm yn "cael eu gyrru i'r eithaf" wrth herio'r Gwyddelod, gyda chymaint yn y fantol.

Ond mae'r is-reolwr Osian Roberts yn dweud nad yw hon yn gêm sydd yn rhaid ei hennill, er y byddai'n hwb enfawr gwneud hynny.