Y cyhoedd eisiau i'r UE newid medd Jill Evans
Mae'r gwleidydd Jill Evans yn dweud bod pobl nawr eisiau i'r Undeb Ewropeaidd fod yn agosach atyn nhw ac yn gofyn am newidiadau i'r sefydliad.
Mae'n darogan y gallai'r undeb fod yn wahanol i'r hyn yw ar hyn o bryd mewn blynyddoedd i ddod.
Ond ni fydd Prydain yn rhan o'r trafodaethau hynny am fod Theresa May newydd ddechrau'r broses i adael.