Etholiadau lleol Cymru: Golwg ar y map gwleidyddol
Os oeddech chi'n gobeithio sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau lleol ar 4 Mai, mae'r dyddiad cau wedi pasio ers dydd Mawrth.
Mae dros 1,200 o seddi yn y fantol mewn 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Llafur sy'n amddiffyn y nifer fwyaf o'r rheiny ond mae eu harweinydd yng Nghymru, Carwyn Jones, eisoes wedi rhybuddio y bydd yr etholiad yn un anodd i'w blaid.
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd sy'n edrych ar y map gwleidyddol.