David Parry-Jones: 'Un o oreuon y byd darlledu'
Mae'r darlledwr a chyn-sylwebydd rygbi BBC Cymru, David Parry-Jones wedi marw yn 83 oed.
Bu'n gyflwynydd rhaglen newyddion BBC Wales Today am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio fel dadansoddwr rygbi ar gyfer BBC Radio 5.
Yn rhoi teyrnged iddo, mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies yn ei gofio fel "un o oreuon y byd darlledu yng Nghymru a thu hwnt".