Cynllun prawf canser y pen a'r gwddf: Egluro'r system
Bydd technegau delweddu manwl yn cynorthwyo meddygon i dargedu canser y pen a'r gwddf yn fwy effeithiol mewn cynllun prawf gwerth £720,000 yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae'r sganiwr 3D yn amlygu union leoliad y tiwmor ac yn dangos sut mae'r canser yn datblygu mewn ffordd fwy manwl, sy'n galluogi meddygon i'w dargedu'n well gyda radiotherapi.
Yr oncolegydd ymgynghorol Dr Mererid Evans fu'n sgwrsio â gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke i egluro'r ffordd y mae'r system newydd yn gweithio.