Etholiad buan: Theresa May yn 'synhwyro gwaed yn y dŵr'
Mae Theresa May wedi "synhwyro gwaed yn y dŵr" a dyna pam ei bod hi wedi galw etholiad cyffredinol, yn ôl sylwebydd gwleidyddol Cymreig.
Mae Cathy Owens yn rhagweld etholiad anodd i'r blaid Lafur yng Nghymru ac yn dweud y bydd ymdrech fawr yma i ymbellhau oddi wrth yr arweinydd Jeremy Corbyn.
Owain Evans sy'n crynhoi'r ymateb Cymreig i gyhoeddiad Theresa May ddydd Mawrth.