Ceisio gosod record byd am daflu esgidiau yn Llanarthne
Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin wedi ceisio torri record byd am y nifer fwyaf o bobl yn taflu esgidiau Wellingtons ar unwaith.
431 oedd y record, ond fe wnaeth dros 600 o bobl gymryd rhan yn Sioe Llanarthne ddydd Llun.
636 o bobl yw'r ffigwr fydd yn cael ei gyflwyno i Recordiau Byd Guinness.
Ni fydd y record yn cael ei gadarnhau yn swyddogol am rai wythnosau.